James Corden i gamu lawr fel cyflwynydd The Late Late Show

Mae'r cyflwynydd a'r actor o Brydain, James Corden, wedi cyhoeddi y bydd yn camu lawr fel cyflwynydd The Late Late Show yn America.
Dywedodd Mr Corden y bydd yn gadael y rhaglen yn 2023 ar ôl wyth mlynedd wrth y llyw.
Dechreuodd gyflwyno'r sioe yn 2015 wedi gyrfa lwyddianus ar lwyfan ac ar sgrin ym Mhrydain. Chwaraeodd ran Smithy yn y gyfres deledu eiconig Gavin and Stacey.
Wrth siarad gyda The Sun yn 2020, dywedodd mai "rhesymau teuluol fyddai'r rheswm y byddwn i'n gadael y sioe, yn hytrach na rhesymau proffesiynol."
Darllenwch fwy yma.