Arestio Arweinydd Ynysoedd Prydeinig y Wyryf am gynllwynio i fewnforio cocên i'r UDA

Mae Arweinydd Ynysoedd Prydeinig y Wyryf (British Virgin Islands) Andrew Fahie, wedi ei arestio am gynllwynio i fewnforio cocên i America ac o brosesu arian anghyfreithlon.
Fe wnaeth papurau llys yn Florida gyhuddo Mr Fahie o geisio mewnforio o leiaf 5kg o’r cyffur cocên rhwng 16 Hydref y llynedd ac 28 Ebrill eleni.
Fe gafodd Oleanvine Maynard, rheolwr gyfarwyddwr awdurdod porthladdoedd yr ynysoedd yn y Caribî, ei harestio yn ogystal â'i mab.
Mae'r Asiantaeth Gorfodaeth Cyffuriau yn honni bod y ddau wedi ceisio trefnu cyfarfod efo Mr Fahie er mwyn sefydlu lle i storio miloedd o gilogramau o gyffuriau o Colombia, gan eu cadw yn Ynysoedd Prydeinig y Wyryf am ychydig o ddiwrnodiau cyn eu mewnforio i Miami neu Efrog Newydd.
Dywedodd Ysgrifennydd tramor Prydain, Liz Truss, ei bod hi wedi ei "syfrdanu yn sgil yr honiadau difrifol."
Darllenwch y stori'n llawn yma.