Gyrru miloedd o filwyr Prydain i Ewrop yn sgil ymosodiad Rwsia

Sky News 29/04/2022
Milwyr
Milwyr

Bydd tua 8,000 o filwyr Prydain yn cael eu gyrru i ddwyrain Ewrop i gymryd rhan mewn ymarferion milwrol yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Dyma un o'r ymarferion mwyaf ers y Rhyfel Oer, gyda milwyr yn cael eu lleoli mewn gwledydd megis Y Ffindir a Gogledd Macedonia.

Bydd degau o danciau a dros 100 o gerbydau ymladd arfog yn cael eu gyrru i'r lleoliadau yn yr haf fel rhan o gynlluniau sydd wedi eu trefnu ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin.

Mae disgwyl i'r lluoedd arfog ymuno â degau o filoedd o filwyr NATO a’u cynghreiriaid, sy'n cynnwys Denmarc, Gwlad yr Iâ a Norwy.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace, bod y datblygiad yn dangos mai "mewn undod y mae nerth."

Bydd yr ymarferion yn ceisio "arddangos arwyddocad cyfraniad Byddin Prydain wrth amddiffyn Ewrop."

Darllenwch fwy yma

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.