Pryder menywod am brinder triniaethau hormonau HRT

Pryder menywod am brinder triniaethau hormonau HRT
Mae Rhian Jones o Benllain ger y Bontfaen yn un o bron i filiwn o fenywod ym Mhrydain sy'n defnyddio rhyw fath o driniaeth hormonau HRT.
Ers dros ddeng mlynedd mae symptomau'r menopos wedi effeithio arni. A gyda'i meddyginaeth ar fin dod i ben - mae Rhian wedi teithio'n bell i chwilio am fwy.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd ei bod hi wedi "gorfod ffonio o gwmpas 10 o wahanol fferyllfeydd" gan mai dim ond wythnos o'r feddyginiaeth Oestrogel sydd ganddi ar ôl.
Dywedodd ei bod hi wedi gorfod gyrru i Gaerdydd i holi am ragor o gyflenwadau.
Dywedodd: "Dwi 'di torri nôl yr wythnos hyn i trio safio be sy' gyda fi a wi wedi sylwi bod fi wedi blino yn ofnadw; yn deffro yn gynt a methu mynd yn ôl i gysgu.
"Mae'r brain fog yn dod yn ôl a jyst teimlo yn lot iselach na fydden i fel arfer."
Galw
Yn ôl un meddyg teulu mae'n hanfodol bod pobol yn parhau gyda'u triniaethau.
Mae Newyddion S4C wedi siarad gyda sawl fferyllfa yng Nghymru sy'n dweud bod 'na brinder meddyginiaethau - ac mae elusen sy'n ymgyrchu dros hawliau merched nawr yn galw am fynd i’r afael â hynny ar frys.
Mae Richard Evans o Gymdeithas Fferyllwyr Cymru wedi gweld problemau mawr gyda chyflenwadau - ac am weld newid yn y gyfraith.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod rhai menywod yn cael trafferth dod o hyd i'r feddyginiaeth.
Maen nhw'n dweud bod na gynnydd o dros 40% wedi bod yn y pum mlynedd ddiwethaf yn nifer y presgripsiwnau ar gyfer HRT - ac nad yw'r cyflenwyr yn gallu ymateb i'r galw cynyddol.
Ond, am y tro i Rhian a'r miloedd o fenywod eraill - mae'r prinder - a’r pryder yn parhau.