Heddlu yn ymchwilio wedi i ladron ddwyn gwerth miloedd o orchuddion tyllau ffordd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio wedi i nifer fawr o orchuddion tyllau a gorchuddion neu griliau dŵr gwerth £20,000 gael eu dwyn o briffyrdd ym Mhowys.
Dywedodd yr heddlu fod yna “sawl achos o ddwyn” wedi digwydd dros un penwythnos penodedig, sef penwythnos y Pasg rhwng dydd Gwener, 15 Ebrill a dydd Llun, 18 Ebrill 2022 mewn gwahanol leoliadau ar briffyrdd ym Mhowys.
Dywedodd yr heddlu fod cyfanswm o 37 o gwlis neu gafnau dŵr wedi eu dwyn a chwech o orchuddion tyllau ffordd o'r A488 ger Monaughty, y B4356, y B4357 ger Maes-Treylow a'r A44 ger Maesyfed Newydd.
Credir mai cyfanswm gwerth yr eiddo a gafodd ei ddwyn yw tua £20,000.
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a allai eu helpu i gysylltu â nhw.