Rheolau newydd i rwystro pobl rhag aflonyddu yn rhywiol mewn lleoliadau lletygarwch
Mae busnesau lletygarwch wedi mynd ati i sefydlu canllawiau newydd i rwystro cwsmeriaid rhag aflonyddu yn rhywiol ar eu staff.
Cafodd y canllawiau newydd eu lansio ddydd Iau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) a UKHospitality yn dilyn cwynion gan weithwyr lletygarwch.
Mae’r corff wedi llunio rhestr o ganllawiau i helpu atal aflonyddu ar staff bariau, bwytai a chlybiau nos.
Gall y canllawiau gael eu defnyddio gan unrhyw gyflogwr mewn gweithleoedd eraill hefyd.
Y nod yw rhwystro ymddygiad gwael rhag cael ei ystyried yn “rhan o'r swydd.”.
Y bwriad yw annog busnesau i sefydlu polisïau cyson ar gyfer delio â chwsmeriaid sy'n ymddwyn yn amhriodol o amgylch gweithwyr, gan gynnwys systemau pendant i’w rhybuddio, eu symud neu eu gwahardd ar unwaith.
‘Problem yn waeth mewn lletygarwch’
Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys cyngor fel gofyn i reolwyr osgoi cael un aelod o staff i weini ar grŵp mawr o gwsmeriaid, pan fo aflonyddu rhywiol yn fwy tebygol o ddigwydd.
Yn ôl y Comisiwn Hawliau a UKHospitality mae mwy na hanner y menywod a dwy ran o dair o bobl LHDT yn dweud eu bod yn profi aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
Ond dywedir fod y broblem yn waeth gyda busnesau lletygarwch.
Dywedodd llefarydd ar ran y ddau gorff: “Mae'r mwyafrif llethol o staff bar a'r rhai sy'n gweini yn dweud eu bod naill ai wedi profi neu wedi gweld ymddygiad rhywiol amhriodol. Gall hyn amrywio o gael eu gofyn a ydynt 'ar y fwydlen' i ymosodiad rhywiol llawn.
“Nid yw llawer o staff lletygarwch sy'n profi aflonyddu yn cael cymorth gan reolwyr.
Stelcian
"Nododd adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2018 fod aflonyddu ac ymosod rhywiol yn cael eu hystyried gan rai cyflogwyr fel rhan 'arferol' o swydd mewn amgylchedd lle mae alcohol yn cael ei yfed.
"Polisi un lleoliad ar gyfer delio â stelcian oedd caniatáu i staff guddio yn y cefn pan oedd y cwsmer i dod i mewn."
Dywedodd prif weithredwr y Comisiwn Hawliau Marcial Boo: "Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd gofal i'w staff. Mae hyn yn golygu na ddylai ymddygiad amhriodol, boed yn jôcs, yn sylwadau rhywiaethol neu ddwylo crwydrol, byth fod yn 'rhan o'r swydd', hyd yn oed pan fydd eich cwsmeriaid wedi yfed alcohol."