Wcráin: Tad o Brydain wedi'i enwi fel y person cyntaf o'r wlad i farw yn y rhyfel

Mae tad o Brydain wedi'i enwi fel y person cyntaf o'r wlad i farw yn rhyfel Wcráin.
Y gred yw bod Scott Sibley, a dyn arall sydd ar goll, wedi bod yn ymladd fel gwirfoddolwyr yn rhan o fyddin Wcráin yn erbyn lluoedd Rwsia.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor bod "un Prydeiniwr wedi ei ladd yn Wcráin ac rydyn ni'n cefnogi ei deulu".
"Rydyn ni'n ymwybodol o un Prydeiniwr arall sydd ar goll yn y wlad, ac rydym hefyd yn cefnogi'r teulu yma."
Fe wnaeth nifer o Brydeinwyr deithio i Wcráin yn sgil ymosodiad milwrol Rwsia ar y wlad er mwyn brwydro yn erbyn byddin Vladimir Putin.
Mae Downing Street yn cynghori Prydeinwyr yn gryf i beidio â theithio i Wcráin i ymladd, ac mae aelodau presennol y Lluoedd Arfog Prydeinig wedi cael eu gwahardd rhag gwneud.
Darllenwch fwy yma.
Llun: GoFundMe