Newyddion S4C

Ymchwiliad i lofruddiaeth wedi marwolaeth dyn yng Nghastell-nedd

28/04/2022
heol catwg

Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn eiddo yn Heol Catwg yng Nghastell-nedd ar 27 Ebrill. 

Nid yw corff y dyn 66 oed wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae'r heddlu yn gwneud ymholiadau i ddarganfod ei berthnasau agosaf. 

Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un a glywodd neu a welodd unrhyw beth amheus rhwng 08:00 ddydd Llun, 25 Ebrill a 13:00 ar ddydd Mercher, 27 Ebrill. 

Fe gafodd dyn 38 oed ei arestio mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwcharolygydd Darren George bod "ymchwiliad i lofruddiaeth yn cael ei gynnal ar ôl darganfod corff dyn.

"Mae'r ardal ger Heol Catwg yn gymuned glos ac rydym ni'n annog unrhyw un sydd gan wybodaeth yn ymwneud â'r ymchwiliad i gysylltu â Gorsaf Heddlu y Cocyd."

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu drwy ddefnyddio'r cyfeirnod 2200138869.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.