Newyddion S4C

Ben Cabango i golli gweddill y tymor pêl-droed gydag anaf

Wales Online 28/04/2022
Ben Cabango

Bydd amddiffynnwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Ben Cabango, yn methu dwy gêm olaf y Bencampwriaeth gydag anaf. 

Mae hyn yn golygu y bydd hi'n annhebygol iawn y bydd Cabango ar gael i Gymru yn yr haf.

Bydd Cymru yn chwarae yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd yn erbyn naill ai'r Alban neu Wcráin yn ogystal â phedair gem yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Mehefin. 

Gêm gyfartal yn erbyn Bournemouth yn y Bencampwriaeth oedd hanes Abertawe nos Fawrth, ond fe wnaeth anaf i Cabango yn yr hanner cyntaf olygu bod yn rhaid iddo gael ei eilyddio'n fuan yn yr ail hanner.

Dywedodd rheolwr Abertawe, Russell Martin, bod "tymor Ben drosodd yn anffodus. Fe gafodd sgan ddydd Mercher a dydy'r canlyniad ddim yn newyddion da i ni, nac i Gymru."

Darllenwch fwy yma

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.