Wyth newid i garfan menywod Cymru cyn eu gêm olaf yn y Chwe Gwlad

Mae hyfforddwr rygbi menywod Cymru, Ioan Cunningham, wedi gwneud wyth newid i'w dîm ar gyfer gêm olaf y Chwe Gwlad eleni.
Bydd Cymru yn wynebu Yr Eidal ym Mharc yr Arfau ddydd Sadwrn gyda gobeithion o sicrhau diweddglo perffaith i ymgyrch hanesyddol yn y bencampwriaeth.
Eleni oedd y tro cyntaf i Gymru gystadlu yn y gystadleuaeth gyda chwaraewyr proffesiynol, wedi i 12 o'r garfan arwyddo cytundebau llawn amser ym mis Ionawr.
Mae'r buddsoddiad newydd yng ngharfan y menywod ar fin talu ffrwyth wrth i Gymru anelu am eu pencampwriaeth fwyaf llwyddiannus mewn dros ddegawd.
Bydd buddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal dros y penwythnos yn sicrhau trydydd safle i Gymru - y canlyniad gorau ers gorffen yn ail yn 2009.
Yn dilyn colledion trwm yn erbyn Ffrainc a Lloegr yn y gemau diwethaf, mae'r prif hyfforddwr wedi gwneud sawl newid i'r tîm er mwyn gorffen y gystadleuaeth ar nodyn uchel.
Mae'r bachwr Kelsey Jones, y prop Cara Hope a'r cefnwr Niamh Terry i gyd yn ennill eu lle yn y tîm cychwynnol am y tro cyntaf eleni.
Mae'r prop Donna Rose hefyd yn dychwelyd ar ôl dechrau ar y fainc yn erbyn Ffrainc wrth i Cunningham enwi rheng flaen hollol newydd.
Bydd Sioned Harries hefyd yn chwilio i adeiladu ar ei dylanwad yn ystod y gêm ddiwethaf wedi iddi sgorio cais hwyr ar ôl dod oddi ar y fainc yn erbyn Ffrainc fel wythwyr.
Mae hi a'r blaenasgellwr Alex Callendar yn newidiadau i'r rheng ôl wrth i'r capten Siwan Lillicrap symud i'r ail reng.
Ymysg yr olwyr, mae Kerin Lake yn cymryd ei lle eto yng nghanol y cae, wrth i Robin Wilkins symud o safle canolwr yn ôl i fod yn faswr.
Bydd Wilkins yn ail-greu ei phartneriaeth yn yr haneri gyda Ffion Lewis, wedi i'r mewnwr ddychwelyd i'r garfan gychwynnol yn lle Keira Bevan.
Dywedodd y prif hyfforddwr Ioan Cunningham eu bod yn paratoi ar gyfer her fawr yn erbyn Yr Eidal, ond yn gobeithio gorffen y bencampwriaeth gyda'r "tair buddugoliaeth mae'r grŵp yma'n haeddu."
Tîm Cymru
Niamh Terry; Lisa Neumann, Hannah Jones, Kerin Lake, Jasmine Joyce; Robyn Wilkins, Ffion Lewis; Cara Hope, Kelsey Jones, Donna Rose, Siwan Lillicrap (capt), Gwen Crabb, Alisha Butchers, Alex Callender, Sioned Harries
Eilyddion: Carys Phillips,Caryl Thomas, Cerys Hale, Natalia John, Bethan Lewis, Keira Bevan, Lleucu George, Kayleigh Powell.
Cymru v Yr Eidal ym Mharc yr Arfau - dydd Sadwrn 30 Ebrill. Y gic gytnaf am 12:00.