AS benywaidd o Gymru'n cyhuddo aelod o gabinet yr wrthblaid o wneud sylwadau anweddus amdani

Mae AS benywaidd o Gymru wedi cyhuddo aelod o'r cabinet cysgodol yn San Steffan o wneud sylwadau anweddus amdani.
Dywedodd yr aelod, sydd heb ei henwi, fod yr AS Llafur gwrywaidd wedi ei disgrifio fel "arf cyfrinachol" ei phlaid, a hynny oherwydd bod "menywod eisiau bod yn ffrind iddi" a dynion "eisiau cysgu gyda hi."
Mae'r AS hefyd wedi dweud nad dyna’r unig ymddygiad o'r fath yr oedd hi wedi’i brofi yn San Steffan.
Nid yw'r aelod wedi gwneud cwyn swyddogol yn erbyn ei chyd-aelod, ond mae'r Blaid Lafur wedi ymateb drwy ddweud pe bai cwyn yn cael ei gwneud y byddai'n cael ei chymryd "o ddifrif."
Fe ddaw cyhuddiad yr AS ddyddiau'n unig wedi i adroddiad dadleuol ymddangos yn y Mail oedd yn awgrymu fod Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, wedi ymdrechu i daflu Boris Johnson oddi ar ei echel drwy wisgo ac ymddwyn mewn ffordd arbennig o'i flaen.
Mae'r erthygl wedi ennyn ymateb chwyrn gan wleidyddion o bob plaid.
Darllenwch fwy yma.