Preifateiddio Channel 4: Cyhoeddi papur gwyn y llywodraeth ar ddarlledu

Bydd gweinidogion Llywodraeth y DU yn dechrau ar y broses swyddogol i breifateiddio Channel 4 ddydd Iau.
Bydd papur gwyn, sef un o'r camau cyntaf i basio deddfwriaeth newydd yn y Senedd, yn cael ei gyhoeddi yn amlinellu nifer o newidiadau i ddiwydiant cyfryngau'r DU.
Mae'r rhain yn cynnwys rheolau newydd i blatfformau ffrydio a chynlluniau i annog cynhyrchwyr i greu mwy o raglenni "Prydeinig."
Ond y newid mwyaf yw'r cynllun i werthu Channel 4, penderfyniad sydd wedi'i feirniadu'r chwyrn gan y diwydiant cyfryngau, rheolwyr y sianel a nifer o ASau Ceidwadol.
Yn ôl y Llywodraeth mae rhaid gwerthu'r sianel er lles ei datblygiad ond mae yna amheuon y bydd y llywodraeth yn derbyn cefnogaeth ddigonol i fwrw ymlaen gyda'r cynllun.
Darllenwch fwy yma.