Geifr yn ôl ar y Gogarth - ond rhai wedi rhodio i Loegr
Mae geifr gwyllt a ddenodd gryn gyhoeddusrwydd am eu hyfdra wrth rodio strydoedd Llandudno dros y cyfnod clo bellach wedi dychwelyd i’w cartref ar Ben-y-Gogarth gerllaw.
Dywedodd yr aelod seneddol lleol Janet-Finch Saunders iddi ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gwyno am yr aflonyddwch a achoswyd i drigolion yr ardal gan eifr y Gogarth.
Nawr mae hi wedi croesawu ymdrechion diweddar i adleoli grŵp o’r geifr yn ôl i'w cartref ar Ben-y-Gogarth.
Disgrifiodd Janet-Finch Saunders geifr y Gogarth fel “ased i'n tref a'n cymuned sy'n cael eu caru a'u gwerthfawrogi'n fawr.”
Dywedodd, fodd bynnag: “Mae'n rhaid i ni gydnabod bod eu presenoldeb parhaus mewn ardaloedd trefol yn Llandudno yn codi pryderon difrifol, yn enwedig o ran diogelwch ar y ffyrdd a difrod i eiddo preswyl.
"Ar ôl codi'r mater hwn gyda'r Awdurdod Lleol o'r blaen, rwy'n falch iawn o weld bod camau cadarnhaol wedi'u cymryd i ailgartrefu'r anifeiliaid gwych hyn i'r Gogarth unwaith eto.”
Yn ogystal, fe ddaeth i’r amlwg bod 15 o eifr y Gogarth wedi'u symud a'u cludo i ardal cadwraeth natur yn Bournemouth, Lloegr lle byddant yn cael pori ar glogwyni arfordirol yno.
Golyga hyn fod y boblogaeth bresennol o eifr ar y Gogarth wedi gostwng i 150.
Y gobaith nawr yw y bydd y nifer llai yma yn cyfyngu ymhellach ar y niferoedd sy'n mentro i'r dref.