Vladimir Putin yn rhybuddio yn erbyn 'ymyrraeth allanol' yn ei ymgyrch filwrol yn Wcráin

Sky News 27/04/2022
Rhyfel

Mae arlywydd Rwsia wedi rhybuddio y bydd unrhyw fygythiadau gan wledydd sydd yn ymyrryd yn allanol yn erbyn ymgyrch filwrol ei wlad yn Wcráin yn wynebu "ymateb chwim."

Wrth siarad yn St Petersburg ddydd Mercher, dywedodd yr Arlywydd Putin y byddai unrhyw ymyrraeth o'r fath yn cael ei dehongli fel "bygythiad strategol annerbyniol" gan Rwsia.

Ychwanegodd fod sancsiynau economaidd y gorllewin ar Rwsia wedi methu, gan ddweud y byddai amcanion ei luoedd yn cael eu cwblhau wrth i'r rhyfel barhau.

Daw'r cyhoeddiad wedi i Rwsia atal cyflenwadau nwy i Fwlgaria a Gwlad Pwyl yn gynharach ddydd Mercher, a hynny am wrthod gwneud taliadau am y nwy drwy ddefnyddio roubles.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.