Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ddydd San Steffan
Mae teulu dyn 41 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Mhenderyn, Cwm Cynon ar Ddydd San Steffan wedi cyhoeddi teyrnged iddo
Bu farw Jamie Lee Morrison o ardal Penderyn ddydd Sul, ddeuddydd wedi'r gwrthdrawiad yn Nheras Trebanog ar Ddydd San Steffan.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Morrison ei fod yn "fab, brawd, ŵyr ac ewythr cariadus".
"Dim ond 41 oed oedd o ar ôl cael ei gymryd oddi wrthym mor sydyn, ac ni all dim fynegi'r golled yr ydym yn ei theimlo ar hyn o bryd fel teulu," meddai'r teulu.
"Roedd yn adnabyddus yn y gymuned ac roedd pawb oedd yn ei adnabod yn ei garu. Roedd ganddo galon aur ac roedd yn gwbl anhunanol a byddai'n helpu unrhyw un mewn angen. Roedd ei deulu yn golygu popeth iddo.
"Roedd Jamie wrth ei fodd â phêl-droed ac yn gefnogwr Arsenal. Bydd pawb oedd yn ei adnabod yn ei golli'n fawr, yn enwedig y bechgyn yn y New Inn, Rhigos.
"Bydd Jamie yn byw yn ein calonnau am byth ac ni chaiff ei anghofio byth."
Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd er mwyn delio gyda'u colled ac i bobl beidio â dyfalu am yr hyn ddigwyddodd.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad.
Dylai unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd â lluniau camera cylch cyfyng neu gamera dangosfwrdd o'r ardal ar y pryd, gysylltu â'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2500407622.

