Newyddion S4C

Colli hawliau darlledu gemau pêl-droed Cymru yn 'ergyd anferth i S4C'

27/04/2022

Colli hawliau darlledu gemau pêl-droed Cymru yn 'ergyd anferth i S4C'

Mae sylwebydd pêl-droed blaenllaw wedi dweud fod colli hawliau darlledu gemau pêl-droed Cymru yn "ergyd anferth i S4C".

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Nic Parry fod y penderfyniad yn un sydd "ag oblygiadau enfawr".

Daw ei sylwadau wedi cyhoeddiad fore Mercher fod y sianel wedi colli'r hawliau i ddarlledu gemau pêl-droed Cymru wedi i UEFA arwyddo cytundeb newydd gyda chwmni o Norwy.

"Sa ddim amheuaeth, a ma' na wybodusion llawer mwy na fi o fewn y sianel all gadarnhau hyn, ond ma' hon yn ergyd anferth i S4C," meddai Mr Parry.

"Fel cefnogwr dwi'n ei weld o'n siomedig, ond dwi'n dueddol o fynd i'r gemau.  Fel sylwebydd, fydde fe'n ddiwedd era i fi a fydde fo'n dristwch ofnadwy petai'r cyfle yn dod, ar ôl bron i 40 mlynedd o gael darlledu ar bêl-droed Cymru, petai hwnna'n dod i ben."

"Ond nid fi ond y cefnogwyr fydde'n diodde' fwya'", ychwanegodd.

'Siomedig gyda'r newyddion'

O 2024 ymlaen, bydd gemau Cymru yn cael eu darlledu ar wasanaeth Viaplay yn unig. 

Bydd gan y gwasanaeth ffrydio, sydd yn lansio yn y DU cyn diwedd 2022, yr hawliau i ddarlledu gemau Cymru am bedair blynedd. 

Mae'r cytundeb yn cynnwys yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer y Cwpan y Byd yn 2026 ac Euro 2028, yn ogystal â gemau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd ac unrhyw gemau eraill. 

Fel rhan o'r cytundeb, mae Viaplay wedi ymrwymo i ddarlledu'r gemau gyda sylwebaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae rhai o gefnogwyr y Wal Goch wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad ar gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: “Yn amlwg mae S4C yn siomedig gyda’r newyddion yma gan UEFA heddiw. Mae S4C yn trafod gyda Cymdeithas Pêl-droed Cymru er mwyn cadarnhau’r sefyllfa o ran sylwebaeth Gymraeg.

"Ni fydd S4C yn gwneud unrhyw sylw ar drafodaethau masnachol," ychwanegodd y llefarydd.

Yn dilyn y newyddion, fe ddywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, fod trafodaethau'n parhau rhwng y gymdeithas a UEFA o ran yr iaith Gymraeg.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.