Ehangu cynllun i helpu plant i wella eu sgiliau iaith a darllen
Mae prosiect a lansiwyd yn ystod y pandemig i helpu plant i wella eu sgiliau iaith, cyfathrebu a darllen wedi cael grant i barhau a’r gwaith.
Mae prosiect y Rhaglen Iaith a Llythrennedd (RILL), a arweinir gan Brifysgol Bangor, yn cynnig rhaglen iaith a llythrennedd ddwys a rhyngweithiol yn Gymraeg neu Saesneg i blant rhwng saith ac 11 oed am gyfnod o 10 wythnos, naill ai yn y dosbarth neu o bell.
Mae’r prosiect wedi helpu dros 500 o blant hyd yma a’r gobaith nawr y bydd hyd at 2,000 yn rhagor o blant ledled Cymru yn cael cymorth yn sgil y grant o £290,000 gan Lywodraeth Cymru.
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru, GwE, i ddatblygu RILL Cymraeg.
Geirfa
Dywedodd llefarydd ar ran y prosiect: “Bydd y fersiwn Gymraeg bwrpasol hon yn canolbwyntio ar ddatblygu geirfa Gymraeg dysgwyr a meithrin eu sgiliau llythrennedd trosglwyddadwy.”
Mae 33 o ysgolion yn y gogledd wedi bod yn rhan o'r prosiect.
Dywedodd prif ymchwilwyr y prosiect, y Dr Manon Jones o Brifysgol Bangor a Dr Cameron Downing o Brifysgol y Drindod Leeds: “Mae’r Rhaglen Iaith a Llythrennedd yn seiliedig ar ein dealltwriaeth ddamcaniaethol ac empirig o'r ffordd rydym yn dysgu sut i ddarllen a sillafu.
"Mae'r rhaglen RILL Cymraeg – a ddatblygwyd ar y cyd â GwE – wedi cael ei chynllunio ar gyfer y Gymraeg yn benodol. Dyma sy'n wahanol i raglenni llythrennedd Cymraeg eraill."
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles: “Mae sgiliau iaith, cyfathrebu a darllen wrth wraidd pob math o ddysgu. Nod y Rhaglen Iaith a Llythrennedd, a gafodd ei datblygu yng Nghymru ac sy'n unigryw o ran canolbwyntio ar y Gymraeg a'r Saesneg, yw helpu dysgwyr i wella eu sgiliau ar ôl y pandemig.”