Gorchymyn Llywodraeth yr Alban i ryddhau cyngor cyfreithiol ar ail refferendwm annibyniaeth

Mae Llywodraeth yr Alban wedi derbyn gorchymyn i ryddhau'r wybodaeth gyfreithiol gafodd ei roi i weinidogion ar gynnal ail refferendwm annibyniaeth yn y wlad.
Cafodd y gorchymyn ei wneud gan Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth yr Alban yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan bapur newydd The Scotsman.
Dywedodd Daren Fitzhenry, Comisiynydd Gwybodaeth yr Alban, y byddai rhyddhau'r cyngor cyfreithiol yn "gwella'r drafodaeth gyhoeddus am y pwnc yn sylweddol."
Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi datgan ei chefnogaeth i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth erbyn diwedd 2023.
Dywedodd Llywodraeth yr Alban y byddai gweinidogion yn ystyried dyfarniad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Darllenwch ragor yma.