Newyddion S4C

S4C yn colli'r hawliau i ddarlledu gemau pêl-droed Cymru o 2024

27/04/2022
S4C

Mae S4C wedi colli'r hawliau i ddarlledu gemau pêl-droed Cymru wedi i UEFA arwyddo cytundeb newydd gyda chwmni o Norwy.

O 2024 ymlaen, bydd gemau Cymru yn cael eu darlledu ar wasanaeth Viaplay yn unig. 

Bydd gan y gwasanaeth ffrydio, sydd yn lansio yn y DU cyn diwedd 2022, yr hawliau i ddarlledu gemau Cymru am bedair blynedd. 

Mae'r cytundeb yn cynnwys yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer y Cwpan y Byd yn 2026 ac Euro 2028, yn ogystal â gemau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd ac unrhyw gemau eraill. 

Fel rhan o'r cytundeb, mae Viaplay wedi ymrwymo i ddarlledu'r gemau gyda sylwebaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae rhai o gefnogwyr y Wal Goch wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad ar gyfryngau cymdeithasol.

​​​​​

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: “Yn amlwg mae S4C yn siomedig gyda’r newyddion yma gan UEFA heddiw. Mae S4C yn trafod gyda Cymdeithas Pêl-droed Cymru er mwyn cadarnhau’r sefyllfa o ran sylwebaeth Gymraeg.”

Yn dilyn y newyddion, fe ddywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, fod trafodaethau'n parhau rhwng y gymdeithas a UEFA o ran yr iaith Gymraeg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.