‘Gall mwyafrif o fythynnod gwyliau Cymru gau yn sgil treth twristiaeth’

North Wales Live 27/04/2022
Ail-dai

Mae'r sector twristiaeth wedi rhybuddio y gall "mwyafrif" o fythynnod gwyliau yng Nghymru gau oherwydd costau uwch, a hynny o ganlyniad i dreth twristiaeth. 

Mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno cynlluniau i roi mwy o bŵer i awdurdodau lleol i godi cost ychwanegol ar bobl sydd yn ymweld â Chymru. 

Mae'r cynlluniau wedi codi pryderon ymysg y sector twristiaeth dros effaith y costau ychwanegol ar eu busnesau. 

Yn ôl y Welsh Tourism Alliance (WTA), bydd rhaid i 84% o fusnesau gau eu bythynnod gwylia hunanarlwyo oherwydd costau cynyddol sy’n gysylltiedig gyda'r dreth. 

Mae'r WTA, ynghyd â UK Hospitality Cymru a’r Professional Association of Self Caterers UK, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i newid y cynlluniau, gan honni bydd y dreth yn cael effaith andwyol ar ddiwydiant twristiaeth Cymru. 

Mae’r Daily Post wedi gofyn wrth Llywodraeth Cymru am eu hymateb.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.