Rwsia yn atal cyflenwadau nwy i Wlad Pwyl a Bwlgaria

Mae Llywodraeth Rwsia wedi atal y cyflenwad o nwy naturiol i Wlad Pwyl a Bwlgaria wrth i densiynau rhyngwladol barhau yn uchel yn sgil rhyfel Wcráin.
Daw'r penderfyniad wedi i nifer o arweinwyr Ewropeaidd wrthod gorchymyn Vladimir Putin i wledydd dalu am nwy Rwsiaidd mewn arian Roubles yn lle Euros neu Ddoleri Americanaidd.
Mae Rwsia yn cyflenwi 45% o nwy naturiol Ewrop a chwarter o gyflenwadau olew, ac yn sgil yr ymosodiad ar Wcráin, mae pryderon am ddyfodol cyflenwadau.
Wrth i wledydd y Gorllewin osod sancsiynau economaidd ar Rwsia, mae yna bryderon gall y Kremlin ymateb drwy amharu ar gyflenwadau ynni gan waethygu'r argyfwng costau byw.
Dywedodd llywodraethau Gwlad Pwyl a Bwlgaria eu bod yn bwriadu sefydlu cyflenwadau eraill o nwy naturiol.
Yn ôl dirprwy prif weinidog y DU, Dominic Raab, mae Rwsia wedi ynysu ei hunain ymhellach gyda'r penderfyniad i atal cyflenwadau nwy'r ddwy wlad.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn bwriadu atal y defnydd o olew a nwy o Rwsia yn raddol. Serch hynny, mae'r DU wedi mewnforio gwerth £220m o olew o Rwsia ers dechrau'r gwrthdaro yn Wcráin.
Darllenwch fwy yma.