Newidiadau i brofion Covid-19 mewn ysbytai yn dod i rym
Mae'r ffordd y mae pobl mewn ysbytai yn cael eu profi am Covid-19 yn newid o ddydd Mercher ymlaen.
Bydd profi cleifion cyn iddyn nhw gyrraedd yr ysbyty yn parhau, ond bydd y math o brawf mae rhywun yn ei gymryd yn seiliedig ar risg unigol y claf.
Ni fydd cleifion sydd heb symptomau yn cael eu profi yn yr ysbyty oni bai bod penderfyniad ar lefel leol i wneud hynny.
Ond fe fydd profion i bobl sydd â symptomau yn parhau drwy brawf PCR neu Brawf Pwynt Gofal (POCT) i brofi am Covid-19, y ffliw a feirws syncytiol (RSV).
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r newidiadau'n bosib oherwydd bodolaeth y brechlyn a thriniaethau gwrthfeirol newydd sydd wedi helpu i "leihau difrifoldeb y clefyd".
Y gobaith yw y bydd y newidiadau yn lleihau'r pwysau ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol tra'n cydbwyso risgiau Covid-19 yn lleol.
Llawdriniaethau yn yr ysbyty
Mae'r cyngor fod holl staff rheng flaen y gwasanaeth gofal iechyd yn cymryd prawf LFD ddwywaith yr wythnos yn parhau, ond yn cael ei adolygu'n gyson.
Mae byrddau iechyd hefyd yn cael eu hannog i weithio gyda darparwyr cartrefi gofal i gytuno ar drefniadau profi cleifion wrth eu rhyddhau o'r ysbyty.
Bydd cleifion heb symptomau sy'n cael llawdriniaeth neu gemotherapi mewn ysbyty yn gorfod cymryd prawf PCR neu POCT 72 awr cyn cael eu derbyn i'r ysbyty.
Mae gofyn hefyd iddyn nhw hunanynysu tan iddynt dderbyn eu triniaeth.
Ond i gleifion asymptomatig risg isel sy'n mynd i'r ysbyty i dderbyn triniaeth risg isel, mae'n bosib y bydd byrddau iechyd yn derbyn canlyniad prawf llif unffordd negyddol.
Mae newidiadau hefyd ar gyfer cleifion gofal heb ei drefnu o flaen llaw, gyda chleifion sydd â symptomau anadlol yn derbyn profion am glefydau megis Covid-19, y ffliw, feirws syncytiol (RSV) ar swab PCR neu POCT.
Os nad oes gan glaf symptomau, byddant yn cael eu profi am Covid-19 yn unig gan ddefnyddio prawf llif unffordd wrth iddynt gyrraedd yr ysbyty.