Awyrlu'r UDA yn ymddiheuro ar ôl cwynion am hedfan yn isel dros Eryri
Yn dilyn cwynion gan bobl yn ardal Caernarfon am awyrennau milwrol yn hedfan "yn isel a swnllyd" dros yr ardal, mae awyrlu'r UDA wedi ymddiheuro am unrhyw aflonyddwch i drigolion.
Ddydd Gwener diwethaf fe gwynodd nifer o bobl Caernarfon fod awyrennau jet milwrol wedi bod yn ymarfer uwchben y dref.
Dywedodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon ei fod wedi derbyn nifer o gwynion oherwydd sŵn yr awyrennau gan ei etholwyr.
Fe wnaeth yr AS anfon llythyr at y Weinyddiaeth Amddiffyn gan honni fod yr awyrennau "wedi torri protocolau hedfan isel."
Yn ei lythyr, dywedodd Mr Williams fod pedair awyren wedi hedfan “yn hynod o isel dros Gaernarfon a phentrefi cyfagos Bontnewydd, Rhostryfan a Rhosgadfan” tua 10:00 fore Gwener.
Dywedodd Mr Williams ei fod yn ei gartref yng Nghaernarfon ar y pryd ac roedd yr awyrennau wedi “hedfan yn eithriadol o isel gan achosi llawer iawn o sŵn a dirgryniad.”
Fe wiriodd yr hediadau gydag amserlen hedfan isel y Weiniyddiaeth Amddiffyn a chanfod nad oedd yr hediadau yma wedi'u trefnu o flaen llaw.
Awyrennau F-15 Americanaidd
Cadarnhaodd yr Arweinydd Sgwadron Jonathan Worthington o RAF y Fali wrth Newyddion S4C mai awyrennau jet F-15 Americanaidd o faes awyr RAF Lakenheath yn Suffolk oedd y rhai hedfanodd uwchben Caernarfon – ac nad oedden nhw wedi hedfan o’r Fali.
Dywedodd fod yr Awyrlu yn y Fali yn gwneud “ymdrechion aruthrol” i beidio hedfan uwchben y tir a bod “y rhan fwyaf o’r hyfforddiant (o'r Fali) yn digwydd dros y môr.”
Wrth ymateb i ymholiad Newyddion S4C, dywedodd llefarydd ar ran RAF Lakenheath, sydd yn gartref i awyrennau o awyrlu'r UDA: "Gallwn gadarnhau fod jetiau o'r 48ain Adain Ymladd sydd wedi eu lleoli yn RAF Lakenheath, yn yr ardal ar ddydd Gwener 22 Ebrill.
"Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar y digwyddiad hwn o ran yr amserlen."
Ychwanegodd y llefarydd fod hyfforddiant o'r fath yn arferol ac yn arwydd o'u "hymrwymiad amddiffyn ar y cyd â'r DU".
"Tra'n bod ni'n gwneud ein gorau glas i osgoi ardaloedd poblog i leihau effeithiau sŵn, ymddiheurwn am yr aflonyddwch a gafodd ei achosi."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i RAF Lakenheath os oedd yr hediadau dros Eryri ddydd Gwener yn dilyn rheolau hedfan isel ar y pryd.
Llun: WikiCommons