Prinder HRT yn sgil cynnydd yn y galw am driniaeth

Mae cwmnïau sydd yn cynhyrchu HRT, meddyginiaeth sydd yn trin effeithiau'r menopos, yn dweud eu bod yn gweld hi'n anodd ateb y galw cynyddol am y cyffur.
Mae'r menopos yn effeithio ar filiynau o fenywod bob blwyddyn ac yn gallu cynnwys symptomau fel gor-bryder, iselder a thrafferth cysgu.
Yn ôl un cynhyrchydd, Theramax, mae'r galw am driniaeth hormonau, sydd yn lleddfu effeithiau'r menopos, wedi cynyddu 130% ers canol 2021.
Dywedodd y cwmni bod hyn wedi digwydd yn sgil mwy o ymwybyddiaeth o'r menopos ar ôl i raglen ddogfen gael ei darlledu gan y cyflwynydd teledu Davina McCall.
Mae'r galw cynyddol wedi achosi misoedd o ddiffyg cyflenwadau HRT gan arwain at gwynion gan rai menywod eu bod methu cysgu neu weithio'n effeithiol heb y driniaeth.
Mae nifer o gwmnïau cynhyrchu wedi dweud eu bod yn ceisio cynyddu eu capasiti er mwyn ateb y galw.
Darllenwch fwy yma.