Newyddion S4C

Rwsia yn dweud ei bod 'i bob pwrpas' yn brwydro rhyfel yn erbyn NATO

Kharkiv

Mae llywodraeth Rwsia wedi dweud ei bod i "bob pwrpas" yn brwydro rhyfel yn erbyn NATO.

Yn ôl Gweinidog Tramor y wlad, Sergei Lavrov, mae'r holl arfau sydd wedi eu rhoi i gefnogi Wcráin yn destun o hyn. 

Rhybuddiodd mewn cyfweliad teledu yn Rwsia bod trydydd rhyfel byd yn bosib ac na ddylid diystyru'r bygythiad o ddefnyddio arfau niwclear.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, gyfarfod gydag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin yr wythnos hon. 

Y gred yw y bydd yna drafodaeth am ddinas Mariupol sydd wedi ei difrodi yn sylweddol yn ystod y rhyfel.

Bydd Mr Guterres yn cyfarfod â Volodymyr Zelenskyy ddydd Iau.

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.