Newyddion S4C

Boris Johnson: 'Atomfa newydd yn Wylfa yn mynd i ddigwydd'

Newyddion S4C 25/04/2022

Boris Johnson: 'Atomfa newydd yn Wylfa yn mynd i ddigwydd'

Mae Boris Johnson wedi dweud bod atomfa newydd ar safle Wylfa yn Ynys Môn "yn mynd i ddigwydd". 

Roedd Mr Johnson ar daith yn y gogledd ddydd Llun, a hynny cyn yr etholiadau lleol ar 5 Mai.

Mae llywodraeth Boris Johnson wedi cyflwyno addewid i ddatblygu gorsaf bŵer niwclear ar yr ynys mor gyflym â phosib". 

Yn gynharach ym mis Ebrill fe gyhoeddodd Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain sut y bydd Prydain yn cyflymu’r defnydd o ynni gwynt, niwclear, solar a hydrogen, gyda'r gobaith o weld 95% o drydan y DU yn Cael ei gynhyrchu drwy ffyrdd carbon isel erbyn 2030.

'Gadael i un cynllun fethu'

Ond yn ôl yr Aelod o'r Senedd ar gyfer Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, nid dyma'r tro cyntaf i gynllun o'r fath fod ar y gorwel.

"Ma' Boris Johnson wedi gadael i un cynllun Wylfa fethu yn barod wrth gwrs a hynny ar ôl cymaint o ymdrech gan y Cyngor Sir gymaint â neb i sicrhau bod 'na gynllun yn barod i fynd oedd â buddiannau lleol wrth ei galon o," meddai wrth Newyddion S4C.

Dywedodd y blaid Lafur fod hon yn dro pedol arall gan Lywodraeth y DU ond eu bod yn newyddion da serch hynny.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, fe fyddai atomfa yn dod â swyddi i'r ardal ond na fyddai'n help i bobl gyda chostau ynni yn y tymor byr.

Dywed y Blaid Werdd nad dyma'r ateb i'r argyfwng hinsawdd ac fe fyddai gwastraff ar ôl yr atomfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.