Disgwyl i Twitter dderbyn cynnig Elon Musk i brynu'r cwmni

Yn ôl adroddiadau, mae Twitter yn fodlon derbyn cynnig Elon Musk i brynu'r cwmni am $54.20 y gyfran.
Daw hyn ar ôl adroddiadau'r wythnos ddiwethaf bod Mr Musk wedi sicrhau'r cyllid ar gyfer ariannu'r cytundeb.
Mae eisoes yn berchen ar 9% o'r cwmni, sy'n golygu mai ef oedd cyfranddaliwr mwyaf Twitter ar 9 Ebrill.
Fe gyhoeddodd Mr Musk ar 14 Ebrill ei fwriad i brynu'r rhwydwaith cymdeithasol am tua $43 biliwn.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Steve Jurvetson