Newyddion S4C

Angela Rayner

Galw am ddisgyblu'r ASau wnaeth y sylwadau rhywiaethol am Angela Rayner

Sky News 25/04/2022

Gallai pwy bynnag wnaeth y sylwadau rhywiaethol am Angela Rayner wynebu cael eu disgyblu, yn ôl un o weinidogion y Blaid Geidwadol.

Dywedodd y gweinidog technoleg, Chris Philp ei fod yn disgwyl pe bai ffynhonnell y sylwadau i'r Mail on Sunday yn cael eu darganfod y bydden nhw'n debygol o fod yn "destun disgyblaeth".

Ychwanegodd y bydd chwipiaid y Torïaid yn "edrych os ydyn nhw'n gwybod" pwy wnaeth y sylwadau am y dirprwy arweinydd Llafur.

Ddydd Llun, dywedodd Mr Philp wrth Sky News: "Roeddwn i'n arswydo bod y teimlad hwnnw'n cael ei fynegi.

"Mae'n sarhaus, mae'n fisogynistaidd."

Coesau

Mae Boris Johnson wedi beirniadu'r honiadau bod Ms Rayner wedi defnyddio tactegau i dynnu ei sylw yn y Senedd. 

Roedd y sylwadau gan ASau Torïaidd dienw yn honni bod Ms Rayner yn "croesi ac yn dad-groesi" ei choesau yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog i geisio ei daflu oddiar ei echel.

Y gred yw bod y Prif Weinidog wedi anfon neges bersonol ati yn dweud ei fod yn gresynu'r sylwadau. 

Mae Ms Rayner a'r Prif Weinidog yn aml yn mynd benben mewn trafodaethau tanbaid - pan fydd yr arweinydd Llafur Keir Starmer yn absennol.

Honiwyd fod Ms Rayner yn defnyddio tactegau tebyg i’r rhai a amlygwyd gan yr actor Sharon Stone yn y ffilm Basic Instinct.

Mae Ms Rayner wedi gwadu’r fath honiadau fel “anwiredd llwyr.”

Darllenwch fwy yma
 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.