Ysgrifennydd Gwladol America wedi ymweld â Zelensky yn Kyiv

Mae Ysgrifennydd Gwladol America, Antony Blinken, wedi ymweld â Volodymyr Zelensky, arlywydd Wcráin, yn y brifddinas, Kyiv.
Roedd yr ymweliad wedi cael ei gadw’n gyfrinachol wrth i’r rhyfel yn Wcráin nawr ymledu i’r trydydd mis.
Mae Mr Blinken wedi addo $322 (£251m) fel arian newydd ar gyfer y Wcráin, a chadarnhaodd y bydd diplomyddion Americanaidd yn dechrau dychwelyd yn raddol i'r wlad.
Dyma oedd yr ymweliad cyntaf gan un o uwch-swyddogion America ers i Rwsia ddechrau'r rhyfel.
Hefyd ar yr ymweliad gyda Mr Blinken oedd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Lloyd Austin.
Darllenwch fwy yma.