Etholwyr Ffrainc yn bwrw pleidlais i ddewis arlywydd nesaf y wlad

Bydd pobl Ffrainc yn bwrw eu pleidlais er mwyn dewis eu harlywydd nesaf ddydd Sul, wrth i rownd olaf yr etholiad arlywyddol gael ei chynnal.
Mae'r arlywydd presennol, Emmanuel Macron, yn cystadlu yn erbyn yr ymgeisydd asgell dde eithafol Marine Le Pen.
Dyma'r ail-dro i'r ddau ymgeisydd wynebu ei gilydd mewn gornest ar gyfer yr arlywyddiaeth, wedi i Macron drechu Le Pen yn 2017 i sicrhau ei dymor gyntaf mewn grym.
Mae disgwyl i Macron ennill unwaith eto eleni wrth i ragolygon barn ddarogan ei fod yn ffefryn amlwg.
Ond mae'n bosib y gall y canlyniad gael ei ddylanwadu gan y nifer o bobl sydd yn gwrthod pleidleisio neu sydd yn bwrw pleidlais mewn protest, wedi i Macron a Le Pen ennill llai na hanner o'r pleidleisiau gyda'i gilydd yn y rownd gyntaf.
Fe fydd y bleidlais yn cau am 20:00 ac mae disgwyl i'r canlyniad swyddogol gael ei gadarnhau dros nos.
Darllenwch fwy yma.