Cwmni hufen ia o Sir Benfro i newid deunydd marchnata wedi beirniadaeth chwyrn

Fe fydd cwmni bwyd o Sir Benfro yn newid neges farchnata ar becynnau ei hufen ia yn dilyn beirniadaeth chwyrn ar gyfryngau cymdeithasol.
Fe dderbyniodd cwmni Upton Farms gwynion am gyfeirio at Sir Benfro fel "darn bach o Loegr tu hwnt i Gymru" ar ei becynnau.
Mae'r cwmni bellach wedi ymddiheuro gan ddweud bydd y brandio yn cael ei dynnu o unrhyw becynnau yn y dyfodol.
Dywedodd llefarydd o'r cwmni ei fod yn "falch i fod yn Gymraeg" a bydd pecynnau yn y dyfodol yn gwneud mwy i ddathlu Cymreictod.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Twitter