Y Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am 'grantiau gwyrdd' i wresogi cartrefi
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am 'grantiau gwyrdd' i helpu cartrefi sydd yn parhau i ddibynnu ar olew er mwyn eu gwresogi.
Wrth ymweld â Phowys ddydd Sadwrn fel rhan o ymgyrch y blaid yn yr etholiadau lleol, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey, fod angen gwneud mwy i gefnogi cartrefi sydd ddim yn defnyddio'r grid nwy ar gyfer gwres.
Yn ôl ymchwil gan y blaid, dyw tua chwarter o gartrefi yng Nghymru ddim yn defnyddio nwy i wresogi eu tai, gan ddibynnu ar ddefnyddio olew neu drydan.
Mae'r cartrefi hyn yn dueddol o fod mewn ardaloedd gwledig ac yn wynebu prisiau uwch er mwyn eu gwresogi.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol galw am gefnogaeth ariannol i osod pympiau gwres ac inswleiddio yn y tai dan sylw er mwyn lleddfu effeithiau'r argyfwng costau byw.
"Mae biliau uwch yn rhoi gormod o deuluoedd yng Nghymru o dan bwysau," meddai Ed Davey.
"Mae'r rhai mewn ardaloedd gwledig sydd yn defnyddio olew gwresogi yn cael eu taro'n eithriadol o galed."
Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds: "Mae amcangyfrifon gafodd eu rhyddhau'r mis hwn yn dangos bod hyd at 45% o aelwydydd Cymru bellach yn byw mewn tlodi tanwydd.
"Mae hwnnw yn ystadegyn hollol gywilyddus."
Llun: Y Democratiaid Rhyddfrydol
Etholiadau lleol - ymgyrch y pleidiau: