Y Blaid Werdd yn amlinellu eu cynlluniau i leddfu costau byw
Mae'r Blaid Werdd wedi amlinellu eu cynlluniau i leddfu costau byw wrth iddyn nhw lansio eu hymgyrch etholiadau lleol ddydd Mawrth.
Cyhuddodd cyd-arweinwyr y blaid Carla Denyer ac Adrian Ramsay lywodraeth San Steffan o fethu ag ymateb i'r "argyfwng" costau byw.
Dywedodd y ddau sydd wedi bod yn gyd-arweinwyr ers y llynedd fod angen buddsoddi mewn prosiectau inswleiddio i leihau anghenion ynni a chadw cartrefi'n gynnes.
Mae Mr Ramsay yn gyn-gyfarwyddwr ar y Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth.
Mae'r Gwyrddion yn herio seddi mewn dros 100 o ardaloedd lleol.
Fe fydd pobl ar draws Cymru yn mynd i'r gorsafoedd pleidleisio ar 5 Mai.
Etholiadau lleol - ymgyrchau'r pleidiau