Dyn gafodd ei ddyrnu gan blismon yn rhoi tystiolaeth emosiynol mewn gwrandawiad

PC Richard Williams

Mae dyn gafodd ei ddyrnu naw o weithiau gan blismon mewn gardd ym Mhorthmadog yn 2023 wedi rhoi tystiolaeth emosiynol wrth gofio'r ymosodiad.

Roedd Steven Clark yn siarad o flaen gwrandawiad camymddwyn ym Mae Colwyn ddydd Mawrth, sydd yn ystyried tystiolaeth yn erbyn y Cwnstabl Richard Williams.

Mae Mr Williams yn wynebu wyth o honiadau, ac fe honnir ei fod wedi torri Safonau Ymddygiad Proffesiynol yn ymwneud â defnyddio grym, awdurdod, parch a chwrteisi, ac ymddygiad anfriol.

Mae'n gwadu'r honiadau yn ei erbyn.

Ar ddiwedd achos llys blaenorol yn 2025, fe gafwyd PC Williams yn ddieuog o ymosod ar Mr Clark a'i dagu'n fwriadol.

Ar ddechrau'r gwrandawiad ddydd Mawrth, dywedodd Steven Clark ei fod yn 38 oed ac yn dad i bump o blant. 

Dywedodd hefyd ei fod yn byw ym Mhorthmadog.

Anaf

Gofynnodd y bargyfreithiwr Stephen Morley iddo ar ran Adran Safonau Proffesiynol Heddlu'r Gogledd am anaf yr oedd Mr Clark wedi ei ddioddef i'w fraich cyn yr ymosodiad yn yr ardd ym mis Mai 2023.

Esboniodd Mr Clark ei fod wedi dioddef anaf i'w fraich mewn damwain beic modur rhyw flwyddyn neu fwy cyn iddo gael ei arestio yn y digwyddiad.

O ganlyniad, dywedodd nad oedd modd iddo gael ei roi mewn gefynnau ('handcuffs') pan oedd ei ddwylo tu ôl i'w gefn.

Roedd wedi ceisio esbonio hyn i blismones yn yr ardd cyn yr ymosodiad arno, meddai.

'Methu anadlu'

Wrth droi at yr ymosodiad, dywedodd Mr Clark ei fod wedi dangos craith er mwyn profi fod o wedi cael problemau gyda'i fraich.

"Yna y funud nesaf rwy'n cael fy nhaflu o gwmpas yr ardd... ac yna doeddwn i ddim yn gallu anadlu," meddai.

"Oeddech chi'n gwybod pam nad oeddech chi'n gallu anadlu?" gofynnodd Stephen Morley.

"Achos am ei fod yn fy nhagu fi," meddai Mr Clark, a'i lais yn torri dan deimlad.

"Ac yna fe ddechreuodd fy nyrnu fi, drosodd a throsodd a throsodd a throsodd."

Saib

Wrth i Steven Clark ddechrau crio, gofynnodd Mr Morley os oedd angen iddo roi'r gorau i'w holi am gyfnod byr er mwyn iddo gael saib.

Gwrthododd y cynnig, cyn parhau gyda'i atebion ar ôl ychydig.

"Yr unig beth rwy'n ei gofio yw eu bod yn fy nhaflu o gwmpas yr ardd a fy nhagu a fy nyrnu, tra bod swyddog arall yn eistedd ar fy nghoesau tra fy mod yn ceisio anadlu, a doeddwn i ddim yn gallu anadlu," meddai.

"A wnaethoch chi geisio ymladd â'r swyddogion mewn unrhyw ffordd?" gofynnodd Mr Morley.

"Naddo," meddai Steven Clark. "Yr unig beth yr oeddwn yn ceisio ei wneud oedd anadlu."

Aeth ymlaen i ddisgrifio cael ei daflu i mewn i gefn fan yr heddlu, cyn i'w lygaid ddechrau llosgi.

"Beth ydych chi'n ei gofio'n digwydd oedd yn golygu nad oeddech chi'n gallu anadlu?" gofynnodd y bargyfreithiwr wrtho.

"Twistio fy ngwddw reit yn ôl, gydag un swyddog yn eistedd arna fi fel nad oeddwn i'n gallu symud," atebodd. "Doeddwn i ddim yn gallu anadlu.

"Dwi'n cofio gweiddi 'Help, fy mraich! Fy mraich!"

Cyffuriau

Ar ddechrau cael ei holi gan y bargyfreithiwr Sam Green ar ran PC Williams, fe wnaeth Mr Clark wadu ei fod dan ddylanwad cyffuriau ar ddiwrnod y digwyddiad.

"Ar fore eich arestio, oeddech chi yn drwm dan ddylanwad speed a chanabis?"

"Na", meddai Steven Clark.

"Dwi wedi bod i lawr y llwybr yma flynyddoedd maith yn ôl pan gefais fy nal, ac fe gefais broblemau. Roeddwn yn arfer smocio canabis, dwi'n cyfaddef, ond fe ges i fy nal ac nid ydw i wedi smocio dim byd ers hynny."

Awgrymodd y bargyfreithiwr ei fod mewn tymer ddrwg yn dilyn ffrae gyda chymar iddo y bore hwnnw.

Gwrthod hyn a wnaeth Mr Clark.

'Tacl rygbi'

Yna gofynnodd Mr Green wrtho os oedd wedi cyflawni "tacl rygbi" ar blismones yn yr ardd yn ystod y digwyddiad, yn hytrach na'i fod, fel yr oedd yn ei honni, wedi cael ei daflu o gwmpas yr ardd.

"Na - dyma dwi ddim yn ei ddeall - achos dydw i erioed wedi taro neb yn fy holl fywyd. Nid ydw i yn ddyn tresigar."

Ychwanegodd nad oedd yn gwybod beth ddigwyddodd pan gafodd ei daflu o amgylch yr ardd y diwrnod hwnnw.

"Roeddech chi yn egnïol ac yn weithredol yn ceisio gwrthsefyll cael eich arestio yn doeddech chi?"

"Na" meddai Steven Clark wrtho.

"Fe wnaethoch chi bopeth yr oeddech yn gallu ei wneud i atal yr heddwas rhag rhoi'r gefynnau ar eich garddwn chwith?"

"Na - achos fe wnes i ofyn iddo o'r cychwyn 'os wyt ti am fy arestio fi, yna arestia fi o'r tu blaen."

Aeth y bargyfreithiwr yn ei flaen i ofyn iddo beth oedd o'n ei wneud oedd yn golygu ei fod wedi cymryd tri yn hytrach na dau blismon i'w roi mewn gefynnau?

"Dim byd - stryglo am nwy ac aer," atebodd.

Gofynnodd Sam Green wrtho beth oedd yn ei wneud oedd wedi achosi i'r plismyn gymryd chwe munud i roi'r ail bâr o efynnau amdano?

"Ceisio anadlu - heblaw am gael fy nhaflu o gwmpas yr ardd."

"O'r dechrau i'r diwedd, oeddech chi'n cydymffurfio gyda'r heddlu yn hyn i gyd?"

"Oeddwn", meddai Steven Clark.

Ar ddiwedd ei gwestiynau, gofynnodd y bargyfreithiwr i Mr Clark a oedd "wedi gwneud unrhyw gais am iawndal yn y llysoedd sifil yn erbyn yr heddlu?"

"Ydych chi wedi hawlio arian gan yr heddlu drwy gyfreithwyr?" ychwanegodd.

"Dim byd", meddai Mr Clark.

"Ydych chi'n siwr am hynny?" meddai Mr Green.

"Cyhyd fy mod i'n gwybod dydw i heb wneud dim, dim darn o bapur na dim."

"Mae ganddo chi gyfreithwyr sydd yn delio gyda cheisio am iawndal  - arian i chi?"

"Dwi ddim yn siŵr" meddai Steven Clark wrth ateb. "Dwi ddim yn gwybod."

Ychwanegodd nad oedd yn deall y cwestiwn.

Mae'r gwrandawiad yn parhau.

Prif lun: Richard Williams

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.