Craig Bellamy: 'Fy mhenderfyniad i oedd aros' fel rheolwr Cymru
Mae Craig Bellamy wedi dweud mai ei benderfyniad ef oedd parhau fel rheolwr Cymru ar ôl trafodaethau am symudiad posib i ymuno â Burnley fel eu rheolwr newydd.
Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth, dywedodd y Cymro mai ef wnaeth benderfynu peidio ag ymuno â'r clwb yn y Bencampwriaeth.
Roedd disgwyl iddo adael ei swydd gyda Chymru er mwyn ymuno â Burnley ym mis Mehefin, cyn i'r symudiad beidio dwyn ffrwyth.
"Does dim llawer i'w esbonio, a dweud y gwir. Dwi bob amser yn cael sgyrsiau gyda'r clybiau dw i wedi gweithio gyda nhw," meddai Bellamy.
"Er mwyn iddyn nhw fynd â'r sgwrs ymhellach a siarad mwy, roedd rhaid iddyn nhw wneud yr hyn roedd Cymru wedi'i wneud gyda nhw pan wnaethon nhw holi amdana i.
"Dw i bob amser yn ceisio bod yn agored pan fydd unrhyw un yn cysylltu â fi. Dw i'n siarad â Chymru yn syth.
"Ac wedyn roedd gen i benderfyniad i'w wneud, ac fe wnes i'r penderfyniad hwnnw. Ac i fi, aros oedd y penderfyniad. Roedd mor syml â hynny.
"Fe wnes i'r penderfyniad i aros oherwydd mai dyma'r lle iawn i fi."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2099795077237264746
Roedd Bellamy yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ar ôl cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gemau agoriadol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA.
Bydd Cymru yn wynebu Portiwgal a Denmarc oddi cartref ddiwedd mis Medi, cyn herio Norwy a Denmarc yng Nghaerdydd ar ddechrau mis Hydref.
Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae ers i Bellamy benderfynu peidio ag ymuno â Burnley.
Dywedodd ei fod yn cydnabod nad oedd rhai o gefnogwyr Cymru yn hapus â'r ffordd yr oedd wedi ymdrin â'r sefyllfa dros yr haf.
"Pan glywais i'r naratif oedd yn cael ei wthio, wrth gwrs fy mod i'n ei ddeall [pam nad oedd cefnogwyr yn hapus]," meddai.
"Ond dyna fywyd. Dydy hynny ddim yn rhywbeth i fi ymwneud ag ef. Y peth cyntaf ddywedais i wrth Gymdeithas Bêl-droed Cymru oedd, 'Gadewch iddo fod.'
"Bydd pethau yn gwella gydag amser, ac fe ddaw'r gwir i'r amlwg."
Cafodd Craig Bellamy ei benodi'n rheolwr Cymru ar 9 Mehefin 2024 ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddod â chytundeb Rob Page fel rheolwr i ben.
Ni wnaeth Bellamy golli ei bedair gêm gyntaf wrth y llyw ac fe enillodd ddyrchafiad i Gynghrair A yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.
Methodd â chyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd eleni, ar ôl i Gymru golli ar giciau o'r smotyn yn erbyn Bosnia yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle.
Mae gan Bellamy, sy'n 47 oed, ddwy flynedd yn weddill ar ei gytundeb â Chymru.