Ceidwadwyr Cymreig yn lansio ymgyrch etholiadau lleol
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn lansio eu hymgyrch etholiadau lleol yn Llandudno ddydd Iau.
Mae 669 o ymgeiswyr yn sefyll ar ran y blaid yn yr etholiadau - dywed y blaid mai dyma fydd y nifer uchaf erioed.
Mae'r blaid yn dweud na fyddan nhw'n gwastraffu arian trethdalwyr ar "brosiectau gwag Llafur".
Wrth lansio'r ymgyrch, dywed y blaid y byddan nhw'n "gwrando ar anghenion cymunedau lleol a gweithio gyda nhw".
Ar hyn o bryd, mae gan y Ceidwadwyr reolaeth o un cyngor yng Nghymru, sef Sir Fynwy.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd Andrew RT Davies: "Ar draws Cymru, mae cynghorwyr y Ceidwadwyr Cymreig yn gweithio'n galed i gyflawni ar ran eu cymunedau.
"Dwi wrth fy modd y bydd mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn gallu pleidleisio o blaid pencampwyr lleol a fydd yn darparu cymunedau cryfach, mwy diogel."
Fe fydd modd i bleidleiswyr fwrw pleidlais yn yr etholiadau lleol ar 5 Mai.
Llun: Ceidwadwyr Cymreig (YouTube)
Etholiadau lleol - ymgyrchau'r pleidiau