Mark Drakeford yn lansio ymgyrch etholiadau lleol Llafur
Fe fydd arweinydd y blaid Lafur, Mark Drakeford, yn lansio ymgyrch y blaid yn yr etholiadau llywodraeth leol ddydd Mawrth.
Bydd arweinydd Llafur yn San Steffan, Syr Keir Starmer, hefyd yn mynychu'r lansiad.
Ar drothwy'r etholiadau ar 5 Mai, mae disgwyl i Mr Drakeford sôn am record ei blaid ar faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd gan gynnwys ailgylchu a phlannu coed.
Mae disgwyl iddo ddweud fod cynghorau lleol wedi chwarae rôl wrth ymateb i lifogydd ac wedi arwain ar yr ymateb i'r pandemig.
Bydd hefyd yn beirniadu'r "argyfwng" costau byw gan roi'r bai ar y Ceidwadwyr, yn ogystal â chyfeirio at y sefyllfa yn Wcráin wrth i'r rhyfel yno barhau.
Wrth i bobl ar draws y wlad fynd ati i bleidleisio, fe fydd y Blaid Lafur yn amddiffyn wyth o gynghorau.
Ar hyn o bryd, mae gan y blaid reolaeth dros Ben-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen.
Etholiadau lleol - ymgyrchau'r pleidiau