Newyddion S4C

Plaid Cymru yn lansio ei hymgyrch ar gyfer yr etholiadau lleol

08/04/2022
Adam Price

Mae Plaid Cymru yn lansio ei hymgyrch yn yr etholiadau lleol yng Nghonwy ddydd Gwener.

Wrth lansio'r ymgyrch yn swyddogol, fe fydd y blaid yn pwysleisio mai prydau ysgol am ddim, diogelu swyddi a'r argyfwng hinsawdd fydd ei phrif flaenoriaethau.

Mae disgwyl i arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ganmol record cynghorau ei blaid gan ddweud y bydd polisïau'r blaid yn "adnabod y problemau" ac yn "cynnig atebion".

Un o brif addewidion Mr Price fydd ymrwymiad i ddarparu cinio ysgol am ddim i ddisgyblion uwchradd ymhob cyngor dan arweiniad Plaid Cymru - a hynny yn ystod tymor nesaf y cyngor.

Bydd y blaid hefyd yn amlinellu polisïau i fynd i'r afael ag "argyfwng" tai Cymru drwy adeiladu mwy o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy sydd yn ynni-effeithlon.

Ar hyn o bryd, mae gan Blaid Cymru fwyafrif ar un o gynghorau Cymru, sef Gwynedd.

Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Adam Price: "Mae Cymru’n wynebu sawl her wrth wynebu’r etholiad hwn -heriau sy'n gofyn am leisiau lleol cryf sy'n gwrthod derbyn hyn cystal ag y mae'n ei gael i'n cymunedau."

Fe fydd modd i bleidleiswyr fwrw pleidlais yn yr etholiadau lleol ar 5 Mai.

Llun: Plaid Cymru (Flickr)

Etholiadau lleol - ymgyrch y pleidiau:

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.