Cymuned glos yn ceisio ymdopi dan gwmwl llofruddiaeth Logan Mwangi

Yn dilyn euogfarn tri unigolyn am lofruddio Logan Mwangi yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, mae WalesOnline wedi bod yn siarad gyda thrigolion cymuned Sarn ble cafodd y bachgen ei fagu yn ystod ei fywyd byr.
Fe gafwyd mam Logan, ei lystad a bachgen 14 oed yn euog o lofruddio'r bachgen pum mlwydd oed ar ddiwedd yr achos, ac mae'r pentref wedi ceisio ymdopi gyda digwyddiadau'r misoedd diwethaf yn dilyn y drychineb.
Mae rhai wedi awgrymu y dylid dymchwel cartref teuluol Logan yn y pentref, ond gan fod unigolyn yn byw uwchben eu fflat, mae eraill yn awgrymu y dylid adnewyddu'r cartref yn llwyr cyn ei osod eto.
Darllenwch y stori'n llawn yma.