Carcharu dyn o Gaerdydd am dwyll Crypto gwerth £124,000
Mae dyn 23 oed o Gaerdydd wedi ei garcharu am gyflawni twyll buddsoddiad 'cryptocurrecy' ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddwyn dros £124,000 gan 17 o ddioddefwyr.
Cafodd Haroon Zaman, o Stryd Holmesdale yn ardal Glan yr Afon ei garcharu am dair blynedd ag wyth mis yn Llys y Goron Reading ddydd Mercher.
Rhwng Ionawr 2021 a Mehefin 2023 roedd wedi hacio cyfrifon cymdeithasol ei ddioddefwyr gan ffugio eu negeseuon arlein.
Yna fe aeth yn ei flaen i ddefnyddio'r cyfrifon hyn er mwyn marchnata "cyfleoedd buddsoddi" twyllodrus.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, DC Alex Sarakinis, o SEROCU, fod Zaman wedi dangos “diystyriaeth lwyr o’r difrod” yr oedd wedi’i achosi, gan ychwanegu:
“Drwy herwgipio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, twyllodd bobl i gredu eu bod yn buddsoddi’n ddiogel, pan oedd mewn gwirionedd yn dwyn eu harian.
“Diolch i gydweithio agos â Heddlu De Cymru, llwyddom i ddatgelu maint ei droseddu a sicrhau ei fod bellach wedi cael ei ddwyn gerbron y llysoedd.”