Bronglais: Cleifion yn derbyn gofal mewn coridorau yn effeithio ar 'breifatrwydd ac urddas'
Mae arolwg o Adran Achosion Brys Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth wedi nodi achosion o gleifion yn derbyn triniaeth mewn coridorau, gan effeithio ar eu "preifatrwydd ac urddas".
Cafodd yr arolygiad dirybudd gan Arolygiaeth Iechyd Cymru ei gynnal dros dri diwrnod ym mis Gorffennaf eleni.
Cafodd staff yr adran, oedd yn gweithio dan "bwysau sylweddol", eu canmol am eu hymroddiad a phroffesiynoldeb, gyda chleifion yn cael eu trin ag urddas a pharch yn gyson.
"Er gwaethaf yr heriau parhaus o ran llif cleifion a'r ffaith bod cleifion yn cael eu trin mewn ardaloedd anghlinigol, roedd y staff yn gweithredu mewn ffordd dosturiol ac yn dangos enghreifftiau o waith tîm cryf ym mhob rhan o'r adran," meddai'r adroddiad.
Diogelwch cleifion
Roedd sawl maes yr oedd angen ei wella meddai Arolygiaeth Iechyd Cymru er mwyn amddiffyn diogelwch cleifion a chynnal ansawdd y gofal sydd ar gael.
"Roedd y rhain yn cynnwys pryderon ynghylch y prosesau ar gyfer rheoli a storio meddyginiaethau a gwiriadau anghyflawn o'r cyfarpar adfywio brys," meddai'r adroddiad.
"Roedd heriau o ran llif cleifion yn thema gyson, gydag oedi wrth frysbennu (triage), ardaloedd gorlawn, a darpariaeth bediatrig annigonol yn cyfrannu at y pwysau gweithredol.
"Roedd y canfyddiadau ychwanegol yn cynnwys asesiadau risg anghyflawn, a chydymffurfiaeth wael â safonau hylendid dwylo."
Roedd cleifion yn derbyn gofal mewn coridorau yn aml, a hynny o ganlyniad i oedi cyn rhyddhau cleifion o rannau eraill o'r ysbyty.
Argymhelliad
Mae Arolygiaeth Iechyd Cymru wedi argymell y dylai'r bwrdd iechyd barhau i ymdrechu i wella llif cleifion ac i leihau'r ddibyniaeth ar ardaloedd anghlinigol.
Ychwanegodd yr arolwg nad oedd staff y dderbynfa wedi cwblhau hyfforddiant ‘baner goch’ er mwyn nodi cyflyrau lle mae amser yn hollbwysig, ac roedd oedi o ran ymatebion gan dimau arbenigol hefyd yn effeithio ar ofal cleifion.
Cododd yr arolygiad bryderon hefyd am ddiogelwch y cyfarpar brys a'i gyflwr.
"Nid oedd y gwiriadau a gynhelir ar y troli pediatrig a'r troli llwybr anadlu anodd yn cael eu cofnodi'n gyson; nid oedd arwyddion diogelwch priodol i'w gweld yn yr ardal storio ocsigen, ac roedd y cofnodion tymheredd ar gyfer yr oergelloedd meddyginiaeth yn anghyflawn," meddai'r adroddiad.
Dywed yr adroddiad bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda "wedi ymrwymo i barhau i fonitro'r sefyllfa ac i wneud gwelliannau".
Nododd yr arolygwyr hefyd nad oedd bob amser ddigon o nyrsys a oedd wedi cwblhau hyfforddiant pediatrig yn yr ardal bediatrig, a bod yr ardal yn cael ei defnyddio ar gyfer cleifion a oedd yn oedolion.
Hylendid dwylo
Roedd lefelau cydymffurfiaeth â safonau hylendid dwylo yn isel, ac nid oedd unrhyw ddarpariaeth benodol ar gael ar gyfer cleifion canser neu'r rhai sy'n wynebu risg uwch o haint.
Nododd arolygwyr asesiadau cleifion anghyflawn ac anghysondebau yng nghofnodion rhai o'r cleifion, ac argymhellwyd y dylai'r bwrdd iechyd wella'r arferion dogfennu ac ystyried rhoi system cofnodion electronig ar waith ar gyfer y gwasanaeth cyfan.
Er gwaethaf yr heriau hyn, nodwyd bod diwylliant yr adran yn gadarnhaol ac yn gynhwysol.
Roedd y staff yn cydweithio'n dda â'i gilydd ac yn ymrwymedig i ddarparu gofal o ansawdd uchel, meddai'r adroddiad. Roedd systemau ar waith i reoli cwynion ac i ddysgu gwersi o ddigwyddiadau, ac roedd cleifion yn cael cyfleoedd i roi adborth meddai Arolygiaeth Iechyd Cymru.
Cynllun gwella
Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun gwella "cynhwysfawr" sy'n cynnwys camau gweithredu manwl o ran sut y caiff gwelliannau eu gwneud yn yr adran achosion brys o ganlyniad i'r arolwg.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: “Mae'n amlwg bod staff Adran Achosion Brys Ysbyty Bronglais yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel a thosturiol er gwaethaf yr amgylchiadau anodd iawn.
"Tynnodd ein harolygiad sylw at feysydd o ymarfer da ond nododd faterion sylweddol o ran llif cleifion hefyd – heriau sydd i'w gweld mewn nifer o Adrannau Achosion Brys yng Nghymru.
"Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn sicrhau y gwneir gwelliannau a chynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.”