Newyddion S4C

Tri yn euog o lofruddio Logan Mwangi

21/04/2022
Logan Mwangi

Mae tri o bobl wedi eu canfod yn euog o lofruddio bachgen pum mlwydd oed ger Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Gorffennaf y llynedd.

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi ar lan Afon Ogwr ger pentref Sarn ar 31 Gorffennaf 2021.

Roedd ei fam, Angharad Williamson, 30, ei phartner, John Cole, 39, a bachgen 14 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi’u cyhuddo o ladd y bachgen ifanc.

Daeth canlyniad yr achos yn dilyn dyfarniad unfrydol yn Llys y Goron Caerdydd.

Mae Williamson a'r bachgen 14 oed hefyd wedi’u cael yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Roedd Cole eisoes wedi cyfaddef gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Yn dilyn y dyfarniad, fe ymddangos Ben Mwangi, tad Logan, y tu allan i'r llys gyda chynrychiolydd ar ran Heddlu'r De.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.