Rwsia yn 'bwriadu ymosod ar wledydd eraill' medd Zelensky

Mae Rwsia yn bwriadu ymosod ar wledydd eraill yn Ewrop os bydd ei lluoedd yn trechu byddin Wcráin, yn ôl arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol nos Wener, rhybuddiodd yr Arlywydd Zelensky fod ymosodiad Rwsia ar Wcráin "dim ond y dechreuad" ac mae'n credu y bydd y Kremlin yn ceisio cipio gwledydd cyfagos yn y dyfodol.
Daw ei sylwadau wedi i un o arweinwyr milwrol Rwsia, Rustam Minnekayev, ddatgan mai bwriad ymosodiad diweddaraf lluoedd Rwsia yw cymryd rheolaeth o dde Wcráin.
Mae'r datganiad yn awgrymu bod Rwsia yn bwriadu meddiannu ardaloedd deheuol Wcráin yn barhaol, sydd yn groes i'r hyn a ddywedodd Vladimir Putin am amcanion y Kremlin ar ddechrau'r gwrthdaro.
Yn ei neges, dywedodd yr Arlywydd Zelensky bod yn rhaid i Ewrop wneud mwy i helpu Wcráin oherwydd ei wlad ef "sydd yn gyntaf, ond pwy fydd nesaf?"
Darllenwch y stori'n llawn yma.