
Ceiswyr lloches yng Nghymru yn poeni am bolisi alltudio newydd i Rwanda

Ceiswyr lloches yng Nghymru yn poeni am bolisi alltudio newydd i Rwanda
Mae llawer o ddadlau wedi bod dros bolisi newydd llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n bwriadu danfon miloedd o geiswyr lloches i Rwanda i gael eu prosesu.
Yn ôl y polisi newydd gallai unrhyw un sydd wedi cyrraedd Prydain yn anghyfreithlon ers Ionawr gael ei ail-leoli i'r wlad.
Mae Jean-Noel Yaboro, ceisiwr lloches o Weriniaeth Canol Affrica - sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn poeni am effaith y polisi yma ar ddyfodol ceiswyr lloches.
“Bydd y polisi yma’n effeithio fi, dwi’n poeni am y dyfodol”, meddai.
“Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn syniad da, os bydd y llywodraeth yn penderfynu alltudio ceiswyr lloches i Rwanda.”
“Pan fydd pobl yn ffoi i wlad arall maent yn chwilio am heddwch.”
Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr hawliau dynol hefyd wedi beirniadu'r polisi yma gan ddadlau ei fod yn anghyfreithlon ac na fydd yn gwneud dim i atal ffoaduriaid rhag gwneud y daith peryglus ar draws y sianel.
Mae rhai uwch-gyfreithwyr yn credu y byddai cynlluniau i ddanfon y rhai sy'n hawlio lloches i ganolfannau alltraeth yn torri tair erthygl y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a thair o erthyglau'r Confensiwn Ffoaduriaid.
Gallai hefyd gael ei herio o dan ddeddfwriaeth gwahaniaethu os, er enghraifft, ystyrir bod pobl o Wcráin wedi'u heithrio.
Teimla Jean-Noel y bydd yn achosi gwahaniaethu gan ei fod yn credu byddai'r polisi'n effeithio'n bennaf ar bobl o wledydd Affrica.
“Rwy'n cyfarfod â rhai ceiswyr lloches, maent yn gweld y polisi newydd hwn yn hiliol. Ti'n gwybod?”
'Angen trafod opsiynau eraill'
Mae Kirran Lochhead Strang yn weithiwr gyda Oasis - elusen nid-er-elw yng Nghaerdydd sy’n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches integreiddio o fewn ei cymunedau lleol.
Dywedodd fod polisi'r llywodraeth wedi achosi pryder mawr ymysg ceiswyr lloches.
“Bob tro mae'r llywodraeth yn edrych yn fwy gwrthwynebus tuag at geiswyr lloches - mae'n cael effaith ar iechyd meddwl pobl," meddai.
“Yr wythnos hon mae pobl eisoes wedi dod ataf oherwydd eu bod yn poeni y gallent gael eu hanfon i Rwanda, a ‘pryd fydd yn digwydd a sut mae’n gweithio?”

Er ei ymdrechion gorau i egluro'r sefyllfa iddynt, dywedodd ei fod e’n anodd gan nad oes unrhyw gwybodaeth bendant ar gael eto.
“Ond hefyd i’r bobl sydd ddim yn cael eu hanfon – mae’r gwrthwynebiad yn cael effaith ar iechyd meddwl pobl a sut maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu trin gan y wlad hon, gan y llywodraeth a gan gymdeithas.”
Dywedodd y llywodraeth mai bwriad y polisi newydd yw amharu ar fodel busnes grwpiau troseddwyr ac atal ceiswyr lloches rhag peryglu eu bywydau.
Ond mae Kirran yn cwestiynu os bydd y polisi yn lleihau'r nifer o bobl yn croesi'r Sianel.
“Maen nhw'n dweud mai pwrpas hyn yw i stopio pobl sy'n dod yma mewn cwch ar y Sianel ond sai’n credu bydd yn effeithiol iawn.” meddai.
“Mae pobl mor awyddus i ddod drwy'r sianel felly nid yw hyn yn mynd i atal unrhyw beth.”
“Mae na llawer o opsiynau arall o rhan sut i dderbyn ceiswyr lloches a sut mae'r broses yn gweithio. Dylen ni fod yn trafod nhw nawr, yn enwedig fan hyn yng Nghymru, i fod yn barod am y newidiadau o rhan y system lywodraethol.”
Mae’n galw ar y llywodraeth i ddewis opsyinau sy’n fwy parchus tuag at bobl sy’n ffoi o sefyllfeydd anodd neu beryglys.
“Does dim gwahaniath go iawn rhwng nhw ac unrhyw un arall - yr unig wahaniath yw eu bod nhw wedi cael eu geni ar ochr arall rhyw arfordir.”
Mewn ymateb i feirniadaeth am y cynllun, dywedodd y Prif Weinidog, Boris Johnson, fod y polisi wedi'i dargedu i atal smyglwyr pobl rhag troi'r Sianel yn "fynwent."
"Dyma’r peth moesol iawn i’w wneud. Ni allwn gael pobl yn parhau i farw ar y môr," meddai.
"Mae angen i ni eu hannog i gymryd y llwybr diogel a chyfreithlon os ydyn nhw am ddod i'r wlad hon."