Anfon pedwar cerbyd diffodd tân o Gymru yn rhodd i wasanaethau tân Wcráin

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi rhoi pedwar cerbyd diffodd tân yn rhodd i’r gwasanaethau tân yn Wcráin.
Ar ddydd Mawrth gadawodd un injan dân ac un uned ymateb Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru i Gaint yn Lloegr.
Fe fydd y cerbydau'n ymuno â chonfoi o gerbydau tân ac achub o bob cwr o'r Deyrnas Unedig fydd yn teithio ar draws Ewrop er mwyn rhoi peiriannau diffodd tân i gefnogi'r awdurdodau yn Wcráin.
Dechreuodd y rhyfel yn Wcráin ym mis Chwefror ac erbyn hyn mae 2,224 o sifiliaid wedi marw.
Mae’r confoi o gerbydau o'r DU yn cael ei gydlynu gan Gyngor y Prif Swyddogion Tân a’r elusen Fire Aid.
Bydd un peiriant tân arall, ynghyd ag uned ymateb i ddigwyddiadau arall hefyd yn gadael Cymru am Wcráin ar 3 Mai.
'Ffordd fach i helpu'
Dywedodd Chris Doyle, sydd ymysg y tîm o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fydd yn gyrru ar draws y cyfandir gyda'r cerbydau: “Mae pawb yn ymwybodol o’r digwyddiadau trasig sy’n digwydd yn Wcráin ar hyn o bryd, ac mae hon yn ffordd fach i ni allu helpu ein ffrindiau a’n cynghreiriaid yn Wcráin.”
Dywedodd Rheolwr y Grŵp, Ashley Hopkins, o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Rwy’n gobeithio y bydd danfon y ddau beiriant tân a’r ddwy uned ymateb i ddigwyddiadau yn cynorthwyo gwasanaethau tân Wcráin yn ystod y cyfnod erchyll yma”.
Mae’r ymladd yn Wcráin yn dwyshau ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu ail-agor llysgenhadaeth Prydain ym mhrifddinas Wcráin, Kyiv, yr wythnos nesaf.
Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson ei bod bellach yn ddiogel i ddiplomyddion o’r Deyrnas Unedig i ddychwelyd i Kyiv wedi i luoedd Wcráin lwyddo i wrthsefyll ymdrechion Rwsia i oresgyn y brifddinas.