Llywodraeth y DU yn ail-agor llysgenhadaeth Prydain yn Kyiv

The Independent 22/04/2022
Wcráin Kyiv Strike

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu ail-agor llysgenhadaeth Prydain ym mhrifddinas Wcráin, Kyiv, yr wythnos nesaf.

Dyna ddywedodd y prif weinidog Boris Johnson ddydd Gwener.

Cafodd y llysgenhadaeth ei symud o’r brifddinas ym mis Chwefror yn fuan cyn i luoedd Vladimir Putin ddechrau ar eu hymosodiadau a’u hymgyrch i oresgyn y wlad.

Dywedodd Mr Johnson ei bod hi nawr yn ddiogel i ddiplomyddion o’r DU i ddychwelyd i Kyiv wedi i luoedd Wcráin lwyddo i wrthsefyll ymdrechion y Rwsiaid i oresgyn.

Llun: Ymosodiadau gan daflegrau lluoedd Rwsia ar Kyiv ym mis Chwefror

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.