Clwb pêl-droed yn yr UDA yn ailgychwyn trafodaethau i arwyddo Gareth Bale
Mae adroddiadau yn yr Unol Daleithiau yn honni bod clwb DC United, sy'n chwarae yng nghynghrair y Major League Soccer, wedi ailgychwyn trafodaethau efo cynrychiolwyr Gareth Bale i'w arwyddo yn yr haf.
Mae cytundeb Bale gyda Real Madrid yn dod i ben yn yr haf ac mae disgwyl iddo adael y clwb.
Roedd adroddiadau blaenorol yn awgrymu y byddai cyn-glwb Bale, Tottenham Hotspur, yn awyddus i'w arwyddo eto yn ogystal â diddordeb gan Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd hefyd.
Fe wnaeth rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Rob Page, gadarnhau y byddai Bale yn chwarae i glwb y tymor nesaf yn dilyn amheuon y byddai'n ymddeol cyn hynny.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Asiantaeth Huw Evans