Cymro ifanc yn paratoi i wynebu 'triathlon anoddaf y byd'
"Cyn gwneud fy Ironman cyntaf tair blynedd yn ôl roeddwn i erioed wedi rhedeg 5k, nawr dwi'n paratoi i wynebu traithlon anoddaf y byd."
Mae Cymro ifanc wrthi yn paratoi ar gyfer ei her fwyaf wrth iddo wynebu "triathlon anoddaf y byd" yn Norwy.
Fe fydd Jay Brace o Ddinbych-y-pysgod yn cystadlu yng nghystadleuaeth Norseman ym mis Awst eleni.
Yn wahanol i triathlons arferol mae rhaid nofio mewn dŵr tua 12 gradd selsiws, seiclo i fyny mynyddoedd gydag uchder o 3,000 metr a rhedeg i fyny mynydd bron i 2,000 metr o uchder.
Dim ond lle i 250 o athletwyr sydd ar gyfer y gystadleuaeth hon, ac roedd dros 6,000 o bobl o fwy na 100 o wledydd wedi ymgeisio eleni.
Teimlai Jay, sydd yn 24 oed, ei fod yn lwcus iawn i gael lle, ac yn gyffrous i chwifio'r faner dros Gymru.
"Dwi byth yn fodlon ar ôl cwblhau heriau fel Ironman," meddai wrth Newyddion S4C.
"Felly ar ôl cwblhau Ironman Cymru am yr eildro roeddwn i eisiau mwy, ac mae Norseman yn legendary yn y gymuned triathlon.
"Penderfynais trial yn y balot, ond doeddwn i erioed yn meddwl bydden i'n cael lle."
Mae Norseman yn cyhoeddi enwau'r rhai sydd wedi ennill lle ar ffrwd byw YouTube, ac roedd Jay ar ei wyliau yn ystod y cyhoeddiad.
"Roeddwn i ar fy ngwyliau ar y pryd ac roeddwn i'n speechless pan oedd yr enw Jay Brace wedi dod lan," dywedodd.
"Roeddwn i wir wedi synnu, achos bod e mor brin. Roeddwn i'n meddwl mai Jay Brace arall oedd e, felly tan i fi gael yr e-bost yn cadarnhau roeddwn i methu credu'r peth.
"Fydd cario fflag Cymru fyny'r mynyddoedd yn rhywbeth allai ddim disgrifio, fyddai'n teimlo'n falch iawn."
Dim ond y 160 cyntaf sydd yn derbyn crys du, sydd yn dangos eu bod wedi cwblhau'r ras.
Disgrifiai Jay y gystadleuaeth fel "SAS y byd triathlon", ac mae'r ras yn cychwyn yn oriau mân y bore wrth i'r athletwyr neidio oddi ar fferi i'r ffiord, cyn nofio i'r llan yn Edifjord.
Yna mae dros 3,000 metr o ddringo ar y beic trwy'r mynyddoedd cyn rhedeg marathon cyfan.
Mae rhan gyntaf y marathon yn mynd heibio Llyn Tinnsjøen, gyda'r ail ran yn mynd o Rjukan i Fynydd Gaustatoppen.
Dyw golygfeydd hardd ddim yn anarferol i Jay, sydd wedi cystadlu yn Ironman Cymru sawl gwaith.
"Mae fy rhieni wedi gwneud Ironman erioed, ac felly'n tyfu lan roeddwn i'n cefnogi nhw ac roeddwn i'n dweud bod rhaid i fi gystadlu un diwrnod.
"Mae e ar fy stepen drws ac un flwyddyn roeddwn i wedi penderfynu 'iawn, dwi'n gwneud hyn blwyddyn nesaf."
O ddydd i ddydd mae Jay yn gweithio i gwmni reoleiddio dŵr, ac o ganlyniad i weithio oriau anghymdeithasol mae rhaid iddo godi'n gynnar ar gyfer ymarfer.
Mae'n dweud bod ei gorff wedi dod i'r arfer gyda'i gynllun ymarfer erbyn hyn, ond bydd paratoi ar gyfer y Norseman yn golygu bydd rhaid iddo addasu ei ymarfer, meddai.
"Dwi wedi siarad gyda fy hyfforddwr ac ar hyn o bryd mae'r ymarfer yn eithaf tebyg i Ironman, ond dwi'n gwneud mwy o oriau.
"O ran paratoi ar gyfer yr oerfel, unwaith mae dyddiad y ras yn agosáu byddwn yn mynd i nofio yn yr oerfel a chynyddu'r amser ar y beic.
"Mae'n anodd cael y cydbwysedd rhwng gwaith, weithiau mae'n codi am 05:00 i wneud sesiwn a weithiau fyddai'n gwaith tan 19:00 wedi ymarfer, felly maen nhw'n ddyddiau hir."
'Newid fy mywyd'
Mae gan Jay sawl rheswm dros gystadlu yn Norseman, ac un sydd yn golygu llawer iddo yw codi arian i'r British Heart Foundation.
Dywedodd ei fod yn nabod pobl sydd wedi eu heffeithio gan glefyd y galon, ac eisiau codi arian er mwyn gwella ymchwil i'r clefyd.
"Mae sawl peth sy'n gymhelliant i mi, ac un mawr yw codi arian i'r British Heart Foundation," meddai.
"Mae clefyd y galon yn glefyd nad yw bob amser yn cyhoeddi ei hun, mae'n cyrraedd yn sydyn ac yn newid bywydau am byth.
"Rwy'n credu bod pawb yn nabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio, naill ai yn rhiant, partner, ffrind, cydweithiwr. Dydw i ddim yn wahanol i hynny.
"Ond mae hyfforddi ar gyfer Norseman yn dangos i mi faint rwy'n cymryd fy iechyd yn ganiataol, mae pob sesiwn fore gynnar, pob reid hir, pob rhediad caled nawr ond yn bosibl oherwydd bod fy nghalon yn dal i weithio.
"Ond i filiynau o bobl, nid yw hynny'n wir. Dydyn nhw ddim yn cael gwneud hynny."