Elfyn Evans: 'Ma’ di bod yn gychwyn gwael i’r tymor'

Elfyn Evans: 'Ma’ di bod yn gychwyn gwael i’r tymor'
Bydd Elfyn Evans yn anelu i frwydro yn ôl yn rali Croatia dros y penwythnos yn dilyn perfformiadau siomedig yn nwy rali gyntaf Pencampwriaeth y Byd.
Mae Evans yn rhan o dîm Toyota Gazoo Racing, sydd ar frig y bencampwriaeth ar hyn o bryd gyda Kalle Rovanperä yn gyntaf ym mhencampwriaeth y gyrwyr.
Fe gafodd Evans ddechrau siomedig yn y bencampwriaeth, wedi iddo lithro oddi ar y ffordd a gorffen y ras agoriadol ym Monte Carlo ymhell y tu ôl i'r enillydd Sebastian Loeb.
Roedd yr ail ras yn Sweden yn heriol i'r Cymro hefyd wedi iddo orfod gadael y ras ar ôl taro ei gar Toyota GR Yaris i mewn i bentwr eira ar gymal cyntaf y rali ddydd Sul.
Dywedodd Elfyn ei bod hi wedi bod "yn cychwyn gwael i'r tymor" heb bwyntiau ar y bwrdd.
"Does 'na ddim cuddio o'r ffaith bod e ddim yn cychwyn da ond wedi dweud hynna ma'n rhaid inni symud ymlaen a trio gwneud y gore fedrwn ni efo'r ralïau sydd i ddod", meddai.
Llun: Stefan Brending