Cyn-aelod o bwyllgor seneddol: 'Peidiwch â dal eich gwynt' am ymchwiliad i Boris Johnson

Cyn-aelod o bwyllgor seneddol: 'Peidiwch â dal eich gwynt' am ymchwiliad i Boris Johnson
Mae cyn-aelod o bwyllgor seneddol fydd yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod os yw Boris Johnson wedi camarwain Tŷ’r Cyffredin wedi dweud na ddylai pobl "ddal eu gwynt" am yr ymchwiliad.
Nawr mae aelodau seneddol yn San Steffan wedi cefnogi cais y Blaid Lafur i gynnal ymchwiliad swyddogol i honiadau fod y Prif Weinidog wedi camarwain y Senedd yn fwriadol yn sgil adroddiadau o bartïon yn Rhif 10 yn ystod y cyfnod clo.
Roedd y llywodraeth wedi ceisio gohirio'r bleidlais, ond fe wnaethon nhw dro pedol yn dilyn gwrthwynebiad gan aelodau o’r Blaid Geidwadol eu hunain.
Bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Bwyllgor Breintiau Tŷ’r Cyffredin.
'Llai gwleidyddol'
Mae’r cyn-AS Plaid Cymru Elfyn Llwyd yn gyn-aelod o’r pwyllgor hwnnw.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C yn dilyn y bleidlais, dywedodd Elfyn Llwyd: “Pan o’n i ar y pwyllgor ma’n rhaid imi ddeud mi roedd pethau yn dipyn llai gwleidyddol. Mi roedd yna fwyafrif Torïaid ar y pwyllgor hwnnw.
“Ond weles i dro ar ôl tro'r Torïaid yn gweithredu yn ôl eu cydwybodau ac nid yn ôl eu pleidiau a’u lliwiau gwleidyddol.
“Erbyn hyn dwi’n amau ydi hynny’n mynd i ddigwydd ac felly peidiwch â dal eich gwynt fel petai a meddwl bod y pwyllgor yma yn mynd i 'neud llawer iawn yn y broses hon dwi’n ofni.
“Ond ar ddiwedd y dydd, wrth gwrs, mae camarwain Tŷ’r Cyffredin yn torri’r cod gweinidogol, ac mae fyny i eraill benderfynu ydi o ‘di tramgwyddo wrth dorri’r cod hwnnw. Ac mae torri’r cod hwnnw’n golygu bod y Prif Weinidog yn mynd. Dyna ddiwedd y stori. D’oes ‘na ddim mwy o ddadl, mae o’n mynd.”
'Canolbwyntio ar wella bywydau'
Fe wnaeth Mr Johnson wadu bod y digwyddiadau honedig yn groes i reolau Covid-19.
Serch hyn, cafodd y Prif Weinidog a'r Canghellor, Rishi Sunak, eu dirwyo gan Heddlu'r Met wythnos diwethaf am fynychu parti anghyfreithlon ym mis Mehefin 2020.
Ni fydd yr ymchwiliad yn dechrau nes bod Heddlu'r Met wedi cwblhau ei ymchwiliadau i'r partïon honedig.
Mae'r heddlu hefyd wedi cyhoeddi na fydd rhagor o ddirwyon yn cael eu gwneud yn gyhoeddus tan ar ôl canlyniadau'r etholiadau lleol ym mis Mai.
Bydd pwysau ar Boris Johnson i ymddiswyddo os yw'r ymchwiliad yn canfod ei fod wedi camarwain y Tŷ yn fwriadol.
Mae Boris Johnson bellach wedi dweud nad oedd yn ymwybodol bod y partïon yn torri'r rheolau ac felly nad oedd yn dweud celwydd.
Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi wynebu galwadau o fewn y Blaid Geidwadol i ymddiswyddo.
Dywedodd Mr Johnson ei fod yn bwriadu arwain ei blaid yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Dywedodd: “Rwy’n credu mai’r peth gorau y gallwn ni i gyd ei wneud yw canolbwyntio ar y pethau sydd yn gwella bywydau pleidleiswyr a rhoi’r gorau i siarad am wleidyddion.”
Llun: Prifysgol Aberystwyth